Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd

Dyddiad: Dydd Mercher, 19 Gorffennaf 2017

Amser: 09.31 - 11.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4159


Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Dai Lloyd AC (Cadeirydd)

Dawn Bowden AC

Jayne Bryant AC

Angela Burns AC

Rhun ap Iorwerth AC

Caroline Jones AC

Julie Morgan AC

Lynne Neagle AC

Tystion:

Dr Ruth Hussey, Llywodraeth Cymru

Jennifer Dixon, Llywodraeth Cymru

Eric Gregory, Llywodraeth Cymru

Sir Mansel Aylward, Llywodraeth Cymru

Staff y Pwyllgor:

Sian Thomas (Clerc)

Sarah Sargent (Dirprwy Glerc)

Stephen Boyce (Ymchwilydd)

Philippa Watkins (Ymchwilydd)

 

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

2       Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru - sesiwn dystiolaeth gydag Aelodau'r Panel Adolygu

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan aelodau'r panel adolygiad.

 

3       Papurau i’w nodi

 

3.1   Ymchwiliad i ofal sylfaenol - Llythyr at yr Aelodau oddi wrth Dr Arfon Williams

3.1a Nododd y Pwyllgor y llythyr at yr Aelodau gan Dr Arfon Williams.

 

3.2   Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ynghylch ‘Gwasanaethau sy'n addas i’r dyfodol’

3.2a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon.

 

3.3   Ymchwiliad i unigrwydd ac unigedd - gwybodaeth ychwanegol gan Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

3.3a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru

 

3.4   Gweithredu Deddf Cymru 2017 - llythyr gan y Llywydd

3.4a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Llywydd.

 

3.5   Llythyr gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ynghylch Trefniadau Llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

3.5a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

 

4       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

5       Ymchwiliad i ymarfer corff ymysg plant a phobl ifanc - trafod cwmpas a dull yr ymchwiliad

5.1 Trafododd y Pwyllgor y cwmpas a'r dull gweithredu ar gyfer yr ymchwiliad, a chytunodd arnynt.

5.2 Cytunodd y Pwyllgor i lansio ymgynghoriad cyhoeddus yn fuan.

 

6       Ymchwiliad i unigrwydd ac unigedd - trafod briffs ychwanegol

6.1 Trafododd y Pwyllgor y briffs ychwanegol.

 

7       Blaenraglen waith

7.1 Cynhaliodd yr Aelodau drafodaeth bellach am flaenraglen waith y Pwyllgor. Bydd cynlluniau ar gyfer tymor yr hydref yn cael eu cyhoeddi ar dudalennau gwe y Pwyllgor.

7.2 Trafododd yr Aelodau y cynlluniau ar gyfer gwaith craffu'r Pwyllgor ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2018-19.